Croeso

Rwy’n cynnig sesiynau cinesioleg yn ardal Aberystwyth.
Mae fy ffordd o weithio yn cyfuno hen ffyrdd a ffyrdd newydd o feithrin iechyd a llesiant, ac mae’n parchu natur a hanes unigryw pob unigolyn.
Gellwch ddod i’m gweld ar gyfer ymgynghoriad neu gallaf ymweld â chi yn eich cartref. Rwyf hefyd yn gweithio o bell – arlein a dros y ffôn.
Dyma wahoddiad
i ymdawelu, i sylwi ar lefel ddyfnach o ymwybyddiaeth ac i fod yn agored i bosibiliadau newydd.
Mae popeth wedi ei wneud o egni
ac mae modd gweithio’n fwriadol gyda’ch egni er mwyn trawsnewid eich byd.


Yno wrth eich ymyl
yn ystod sesiwn, byddaf yn eich cefnogi gyda dealltwriaeth berthnasol a thechnegau priodol.
Gan weithio gyda’n gilydd
ein nod yw adfer cydbwysedd ac asbri, er mwyn i chi gael mwynhau bywyd yn hyderus ac yn llawn!
Fy ffordd o weithio
Mae croeso i chi ddod ag unrhyw fater i’w ysytyried, boed hynny’n rhywbeth corfforol, emosiynol, meddyliol neu ysbrydol.
Byddwn yn archwilio sut mae’n effeithio arnoch, ac yn gweithio gyda’n gilydd i greu’r amodau priodol ar gyfer y canlyniad gorau.
Byddwn yn cyfeirio at wybodaeth berthnasol o wahanol agweddau ar eich bywyd, gan ddefnydio technegau monitro’r cyhyrau i sicrhau ein bod ni ar y trywydd iawn.
Bydd y sesiwn yn rhwym o gynnwys rhai neu’r cyfan o’r elfennau canlynol: trafodaeth, ystyriaeth, cyffyrddiad llesol, symud ac ymlacio.
Wrth gyfarfod wyneb-yn-wyneb, dyma therapi sy’n defnyddio cyffyrddiad corfforol. Enghraifft o hyn fyddai dal pwyntiau penodol ar amrywiol rannau o’r corff, a hynny heb ofyn i chi ddiosg unrhyw ddillad.
Mae sesiwn arlein yn debyg iawn i sesiwn wyneb-yn-wyneb, ond mae’n hepgor yr elfen o gyffyrddiad corfforol ac efallai bydd gofyn i chi eich hunan ddal rhai pwyntiau penodol.
Yn wead o’r elefennau uchod a mwy, yn ei hanfod mae sesiwn yn gyfarfod rhyngom ni ein dau, yn awr wedi ei neilltuo ar gyfer gweithio’n fwriadol ar eich iechyd a’ch llesiant.

Geiriau gan fy nghleientiaid
Cymwysterau proffesiynol

Cinesioleg Greadigol
- Ymarferydd a Aseswyd CKAP
- Tracio Corfforol Canfyddiadol (2016)
- Ffordd yr Olrheiniwr (2022)
Dull Eden
- Ymarferydd Ardystiedig EEM-CP (2015)
- Ymarferydd Clinigol EEM-CLP (2016)